Gweithgareddau

Darlithiau Blynyddol

Cynhelir Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ar y bore Mercher. Fel arfer bydd testun y ddarlith yn ymddangos yn y Bwletin.

Dyma restr o’r Darlithiau Blynyddol ers 2001:

2016 Sir Fynwy Dr Rhidian Griffiths Cân, Moliant a Chymanfa yn 1916
2015 Maldwyn Dr Goronwy Wynne John Ambrose Lloyd (1815-1874)
2014 Llanelli Yr Athro Gerwyn Wiliams Yr emyn yng nghyd-destun y Rhyfel Mawr
2013 Dinbych Parchg Athro D Densil Morgan Cofio Thomas Jones Dinbych
2012 Bro Morgannwg Dr E Wyn James Emynwyr Bro Morgannwg
2011 Wrecsam Trystan Lewis Cerddorion ardal y Rhos
2010 Blaenau Gwent Robert Rhys Caniad Solomon yn emynau Williams Pantycelyn
2009 Bala Yr Athro Derec Llwyd Morgan Emynau John Roberts, Llanfwrog
2008 Caerdydd Parchg Ddr D Ben Rees Emynau Hywel M Griffiths, Caerffili
2007 Sir y Fflint Y Tad John Fitzgerald Emynau Catholig
2006 Abertawe Robert Nicholls Emyn-donau Bro’r Eisteddfod (Abertawe)
2005 Y Faenol Yr Athro Branwen Jarvis Yr Emyn Gwladgarol
2004 Casnewydd Parchg Ddr Noel Gibbard Emynau Diwygiad 1904-05
2003 Meifod Dr E Wyn James Ann Griffiths
2002 Tyddewi Yr Esgob Saunders Davies Emynau W Rhys Nicholas
2001 Dinbych Yr Archesgob Rowan Williams Tirwedd Ffydd



Ysgolion Undydd

Cynhelir yr Ysgol Undydd ym mis Mai bob blwyddyn, yn Aberystwyth fel arfer. Themâu’r blynyddoedd diwethaf oedd:

2016 Canu cynnar y Diwygiad Methodistaidd, Emynydd ar daith, Morgan Rhys
2015 Emynyddiaeth a Christnogaeth yn y Wladfa, David Jenkins
2014 W Rhys Nicholas, Thomas Charles, John Morris-Jones
2013 Emynau plant: Canu Clod, Seiat drafod, D Emlyn Evans
2012 Methodistiaid a chanu mawl y 18fed ganrif, Garfield H. Hughes
2011 Lyra Germanica, Lewis Edwards, Cân y Ffydd
2010 Iolo Morganwg, Dechrau Canu, Ieuan Gwyllt
2009 Nis cynhaliwyd
2008 Yr Emyn Cymdeithasol
2007 Dathlu’r Deugain
2006 Emynau’r Wesleaid a Chymru
2005 Ann Griffiths ac Emynyddesau eraill Maldwyn
2004 Yr Emyn Heddiw
2003 Emynau a Thonau Merthyr Tudful a’r cylch
2002 Dau gyfansoddwr: D Emlyn Evans a J Ambrose Lloyd
2001 Caneuon Ffydd