Hanes ac Amcanion

Caradog Roberts
Caradog Roberts
Cliciwch am ddelwedd fwy
Sefydlwyd Cymdeithas Emynau Cymru ym 1967 yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Bala.

Nod y Gymdeithas yw hyrwyddo diddordeb ym mhob agwedd ar emynyddiaeth Cymru – emynau, tonau, awduron, cyfansoddwyr a thraddodiadau.

Mae’r Gymdeithas yn:

dwyn pobl ynghyd i ddarlithiau ac ysgolion undydd i ddysgu ac i drafod gwahanol agweddau ar emynyddiaeth Cymru.
casglu a diogelu defnyddiau.
hyrwyddo astudio emynau ac emyn-donau.
cyhoeddi ffrwyth ymchwil yn y maes.
cysylltu â chymdeithasau emynau mewn gwledydd eraill.

Rheolir digwyddiadau'r Gymdeithas gan y Pwyllgor Gwaith.