Cofio Cyfraniad Cerddor o Ferthyr Tudful

Dadorchuddio plac a darlith goffa i ddathlu bywyd a gwaith E. T. Davies, cerddor amlwg o Ferthyr

Honnodd Max Boyce yn un o’i ganeuon fod ffatri o dan ddaear yn un o gymoedd y De a oedd yn cynhyrchu chwaraewyr rygbi nodedig. Fe allai fod wedi honni’r un mor rhwydd fod ffatri ym Merthyr Tudful a oedd yn cynhyrchu cerddorion talentog, yn enwedig yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth Cymru i’w hadnabod fel ‘Gwlad y Gân’, a heb os nac oni bai, Merthyr oedd prifddinas gerddorol y wlad honno.

Un o gerddorion dawnus Merthyr yn y cyfnod hwnnw oedd E. T. Davies. Fe’i ganed ym Mhontmorlais yn 1878, a bu galw mawr amdano fel organydd, arweinydd a beirniad cerdd, nid yn unig yn ardal Merthyr ond ar draws y wlad. Yr oedd ‘E. T.’ hefyd yn gyfansoddwr. Lluniodd weithiau ar gyfer lleisiau ac ar gyfer offerynnau cerdd. Ei waith mwyaf adnabyddus yw’r unawd hudolus, ‘Ynys y Plant’, i eiriau gan Elfed. Y mae nifer o’i emyn-donau, megis ‘Pontmorlais’ a ‘Via Crucis’, yn dal yn boblogaidd heddiw.

Un o gyfraniadau pwysicaf E. T. Davies oedd ei waith yn hyrwyddo caneuon gwerin traddodiadol Cymru. Rhwng 1920 a’i ymddeoliad yn 1943, ef oedd Cyfarwyddwr Cerdd amser-llawn cyntaf Prifysgol Bangor, ac yn y swydd honno gwnaeth gyfraniad pwysig i ddatblygiad cerddoriaeth fel pwnc academaidd yng Nghymru. Parhaodd i gyfrannu’n gyson i fywyd cerddorol Cymru wedi iddo ymddeol. Un o Aberdâr oedd ei wraig, ac ar ôl ymddeol symudodd ‘E. T.’ i’r dref honno, lle y bu farw ddydd Nadolig 1969 yn 91 oed.

Coffawyd cyfraniad hir a nodedig E. T. Davies i gerddoriaeth yng Nghymru ddydd Iau, I Hydref 2015, pan ddadorchuddwyd plac er cof amdano yng Nghanolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, sydd yn agos i fan ei eni ac mewn ardal a fu’n dyst i lawer o’i weithgarwch cerddorol.

Mwy o newyddion

(01/10/2015)